Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Ionawr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y cyhoedd rhag coronafeirws? (TAQ387)
Leanne Wood (Rhondda): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ateb y galw am wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y Rhondda a thu hwnt os caiff gwasanaethau 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg eu gostwng? (TAQ386)
(5 munud)
(5 munud)
NDM7242 Elin Jones (Ceredigion)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, i’r canlynol:
a) Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad;
b) i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac i ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru neu sy'n ymwneud â’r cymhwysedd hwnnw, gan gynnwys ansawdd y ddeddfwriaeth.
NDM7261 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
(60 munud)
NDM7241 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.
3. Yn cydnabod y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.
4. Yn cydnabod y manteision posibl i Gymru yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:
a) llunio cytundebau masnach rydd newydd;
b) creu system fewnfudo decach nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar y sail o ble y gallant ddod;
c) sefydlu dull newydd o ymdrin â buddsoddi rhanbarthol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.
2. Yn cydnabod bod buddion yn ogystal â heriau yn codi o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn credu y gall yr heriau gynnwys bygythiad sylweddol i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn sylweddol i ymwreiddio datganoli yn llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran tanseilio’r setliad datganoli; ac yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth y DU wrth basio Deddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael) yn Senedd y DU.
4. Yn cefnogi’r cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ‘Diwygio ein Hundeb’ a fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod yn rhan sefydledig o’r cyfansoddiad unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Deddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael)
(60 munud)
NDM7244 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r ystadegau perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a gwasanaethau.
2. Yn gresynu at ganslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau.
3. Yn credu y dylid llongyfarch staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd.
4. Yn credu y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir dim ond:
a) os caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol yr un parch â'r GIG, ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG;
b) os ceir buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau sy'n atal salwch;
c) os ceir gwelliannau i amodau gwaith a chynllunio'r gweithlu er mwyn gwella'r broses o recriwtio a chadw staff y GIG a gofal cymdeithasol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod rhai o fyrddau iechyd Cymru yn gohirio recriwtio oherwydd pwysau ariannol sy'n gwaethygu perfformiad gwael a phwysau ar staff rheng flaen.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir:
a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel partneriaid cyfartal;
b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty;
c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 4 (a) dileu ', ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG'.
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'os caiff y rhwystrau artiffisial rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol eu dileu.'
Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau ychwanegol yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru.
(60 munud)
NDM7243 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i Gymru.
2. Yn croesawu'r ffaith y bydd y Deyrnas Unedig, ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd yr wythnos hon.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau'r manteision gorau i Gymru o ran pysgodfeydd Cymru wrth i ni gwblhau'r broses Brexit.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i ddiwydiannau, amgylchedd a chymunedau arfordirol Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol pysgodfeydd Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 2.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod pwysigrwydd sylweddol yr Undeb Ewropeaidd fel cyrchfan ar gyfer cynnyrch bwyd môr Cymru ac yn ceisio sicrhau bod y farchnad hon yn parhau i fod ar agor ac yn hawdd cael gafael arni yn y dyfodol.
Yn galw ar fil pysgodfeydd arfaethedig Llywodraeth y DU i sicrhau bod deddfwriaeth y DU ac unrhyw ddeddfwriaeth ddatganoledig yn darparu rheolaeth pysgodfeydd sy'n wirioneddol gynaliadwy ac atebol ac sy'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd morol ac yn cefnogi cymunedau sy'n ddibynnol ar yr arfordir.
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y byddwn, ar ôl gadael yr UE, yn gadael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac yn dod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol, gan gymryd rheolaeth yn ôl dros ein dyfroedd ym mis Rhagfyr 2020.
Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i: cynyddu'r cyllid ar gyfer pysgodfeydd ledled gwledydd y DU drwy'r senedd bresennol, a chefnogi'r broses o adfywio ein cymunedau arfordirol.
Gwelliant 6 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth bysgota newydd a fyddai'n seiliedig ar yr egwyddor o 'gynnyrch cynaliadwy mwyaf', ac a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i Lywodraeth Cymru gynnal cynaliadwyedd pysgod ar gyfer pob stoc.
NDM7245 Rhianon Passmore (Islwyn)
Cymru a'r economi ddiwylliannol: manteision economaidd y diwydiannau creadigol a'r celfyddydau mewn Cymru greadigol.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Chwefror 2020